SL(5)310 – Rheoliadau Tir a Halogwyd yn Ymbelydrol (Addasu Deddfiadau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019
Gweithdrefn: Negyddol
Mae Rheoliadau Tir a Halogwyd yn Ymbelydrol (Addasu Deddfiadau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 yn cywiro mân ddiffygion technegol yn Rheoliadau Tir a Halogwyd yn Ymbelydrol (Addasu Deddfiadau) (Cymru) 2006 fel y'u diwygiwyd. Diben y cywiriadau yw sicrhau bod modd gweithredu'r fframwaith deddfwriaethol sy'n rheoli tir a halogwyd yn ymbelydrol ar ôl gadael yr UE.
Rhiant-Ddeddf: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018
Fe’u gwnaed ar: 22 Ionawr 2019
Fe’u gosodwyd ar: 28 Ionawr 2019
Yn dod i rym ar:
SL(5)313 – Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 (Gweler pNeg(5)04)
Gweithdrefn: Negyddol
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 18 o Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 drwy ddileu cyfeiriad at 'Gyfarwyddeb y Sector Cyhoeddus' oherwydd y bydd y cyfeiriad hwnnw yn ddiffygiol ar ôl y diwrnod ymadael.
Mae'r offeryn yn darparu y bydd y termau sydd wedi'u diffinio ar hyn o bryd drwy gyfeiriad at Gyfarwyddeb y Sector Cyhoeddus yn cael eu diffinio drwy gyfeiriad at Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 o'r diwrnod ymadael ymlaen.
Rhiant-Ddeddf: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018
Fe’u gwnaed ar: 28 Ionawr 2019
Fe’u gosodwyd ar: 30 Ionawr 2019
Yn dod i rym ar: